Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

6 Mawrth 2017

SL(5)067 – Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ac yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli’r ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol preifat gan ddeintydd, neu wasanaethau proffesiynol perthnasol gan broffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yng Nghymru (“practis deintyddol preifat”).

Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer cofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau gan yr awdurdod cofrestru (Gweinidogion Cymru).

Mae adran 42 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth, drwy reoliadau, ar gyfer cymhwyso’r Ddeddf (gydag unrhyw addasiadau a bennir) mewn cysylltiad â chofrestru gwasanaethau eraill nad ydynt wedi eu cwmpasu ar wyneb y Ddeddf.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi person sy’n cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat (fel y’i diffinnir yn rheoliad 2) at ddibenion adran 42, ac yn darparu bod y pwerau i wneud rheoliadau yn Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â’r personau hynny a, phan fo’n berthnasol, gyda’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Deddf Wreiddiol: Deddf Safonau Gofal 2000

Fe’u gwnaed ar: 23 Chwefror 2017

Fe'u gosodwyd ar:27 Chwefror 2017

Yn dod i rym ar: 31 Mawrth 2017


 

SL(5)068 – Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ac maent yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli’r ddarpariaeth o wasanaethau deintyddiaeth preifat gan ddeintydd, neu wasanaethau proffesiynol perthnasol gan broffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008 a oedd yn rheoleiddio deintyddion unigol ac maent yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phractisau deintyddol preifat y mae’n ofynnol iddynt gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

Deddf Wreiddiol: Deddf Safonau Gofal 2000

Fe’u gwnaed ar: 23 Chwefror 2017

Fe'u gosodwyd ar:27 Chwefror 2017

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2017

SL(5)069 – Rheoliadau Cofrestru Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf) ac maent yn gymwys i Gymru. Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer cofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau gan yr awdurdod cofrestru (Gweinidogion Cymru). Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hefyd yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n llywodraethu’r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg.

Mae adran 42 o’r Ddeddf yn darparu, drwy reoliadau, ar gyfer cymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf (gydag unrhyw addasiadau a bennir) mewn cysylltiad â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli’r ddarpariaeth o wasanaethau nas pennir yn y Ddeddf honno.

Gwnaed Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017 o dan y pŵer yn adran 42 o’r Ddeddf i ddarparu bod y pwerau i wneud rheoliadau yn Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys, gyda’r addasiadau a nodir yn y Rheoliadau hynny, mewn cysylltiad â phractisau deintyddol preifat.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chofrestru practisau deintyddol preifat.

Deddf Wreiddiol: Deddf Safonau Gofal 2000

Fe’u gwnaed ar: 23 Chwefror 2017

Fe'u gosodwyd ar:27 Chwefror 2017

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2017